P-04-418:
Enwi’r A470 yn ’Brif Ffordd Tywysog Owain
Glyndwr’
Geiriad y
ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth
Cenedlaethol Cymru I enwi’r A470, yn ei chyfanrwydd, yn Brif
Ffordd Tywysog Owain Glyndwr er cof am ymgyrch enfawr a hir yr arwr
cenedlaethol mawr yma a’i chyd gymry dewr i ad-ennill
annibyniaeth i Gymru.
Gwybodaeth
ategol:
GwyMae’r A470 yn ffordd gefnol sy’n rhedeg o Gaerdydd
yn De Cymru i Landudno yn y Gogledd. Bu I Lysgenhadaeth
Glyndwr lansio ymgyrch yn y flwyddyn 2000 i enwi’r ffordd yn
’Brif Ffordd Owain Glyndwr fel coff teilwng i’n harwr
cenedlaethol mwyaf ar achlysur 6oomlwyddiant cychwyniad ei Rhyfel
Mawr am Annibyniaeth 1400 - 1421. Bu i’r Cynulliad
Cymreig anwybyddu’r apêl yn y flwyddyn 2000 ond nawr,
gan fod yna alw o gyfeiriad arall i ran o’r ffordd gael ei
alw yn ‘Y Royal Welsh Way’ fel cydnabyddiaeth
o’r
Catrawd Brenhinol sy’n talu llw o deyrngarwch i Frenhiniaeth
a Threfn Loegr sy’n parhau i feddiannu Cymru, mae
Llysgenhadaeth Glyndwr wedi penderfynu ail gychwyn yr ymgyrch a
lansiwyd gennym yn y flwyddyn 2000 gyda’r ddeiseb arfaethedig
yma.
Prif
ddeisebydd: Sian
Ifan
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Nifer y
llofnodion:111